Mae chwech o bobol wedi ymddangos mewn llys yn Seland Newydd ar ôl cael eu cyhuddo o rannu fideo ymosodiad Christchurch yn anghyfreithlon.

Cafodd 50 o bobol eu lladd ar ôl i saethwr danio bwledi mewn dau fosg yn y ddinas y mis diwethaf.

Mae dyn busnes o’r new Philip Arps, 44, a dyn 18 oed yn y ddalfa ers mis Mawrth ar ôl i’r barnwr Stephen O’Driscoll wrthod rhoi mechnïaeth iddyn nhw. Dydi’r pedwar arall ddim yn y ddalfa.

Mae cosb o hyd at 14 blynedd yn y carchar am ddosbarthu deunydd o’r math yma yn Seland Newydd.

Fe fydd Philip Arps yn ymddangos yn y llys eto ar Ebrill 26.

Mae’r dyn 18 oed wedi cael ei gyhuddo o rannu fideo byw o’r saethu ynghyd a llun o fosg Al Noor gyda’r geiriau “targed wedi’i ganfod.” Fe fydd yntau yn dychwelyd i’r llys ar Orffennaf 31.

Mae prif sensor Seland Newydd wedi gwahardd y fideo o’r ymosodiad a’r maniffesto a ysgrifennwyd gan y saethwr Brenton Harrison Tarrant, sy’n wynebu 50 o gyhuddiadau llofruddiaeth a 39 ymgais i lofruddio.