Mae tad Julian Assange yn dweud y dylai Llywodraeth Awstralia helpu ei fab a’i gludo’n ôl i’w famwlad.

Cafodd sylfaenydd WikiLeakes ei arestio yn Llundain yr wythnos ddiwethaf, ac mae John Shipton o Melbourne yn galw am gymorth y prif weinidog Scott Morrison.

Mae’n dweud bod modd o hyd i’r awdurdodau ddatrys y sefyllfa “mewn modd sy’n foddhaol i bawb”.

Mae Scott Morrison yn dweud y bydd Julian Assange yn cael cymorth conswlaidd, ond na fydd e’n cael unrhyw ffafriaeth.

Cafodd Julian Assange ei arestio yn llysgenhadaeth Ecwador yn Llundain, lle bu’n cael ei warchod ers saith mlynedd, ac mae ei dad wedi mynegi pryderon am sut mae ei fab yn edrych.

Cwestiynau i’w hateb

Mae Jeremy Corbyn yn dweud y dylai Julian Assange gael ei gyfweld ynghylch honiadau o ymosodiadau rhyw yn Sweden.

Mae mwy na 70 o aelodau seneddol wedi llofnodi llythyr yn galw ar Sajid Javid, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, i sicrhau ei fod yn mynd gerbron awdurdodau Sweden pe baen nhw’n galw am ei estraddodi.

“Fy ngwrthwynebiad i oedd ei estraddodi i’r Unol Daleithiau oherwydd rwy’n credu bod WikiLeaks wedi dweud y gwir wrthym am yr hyn oedd yn digwydd yn Afghanistan ac Irac,” meddai Jeremy Corbyn.

Mae gan yr awdurdodau tan 2020 i ddwyn achos yn erbyn Julian Assange tros gyhuddiad o dreisio.