Fe fydd 64 o ffoaduriaid a ddaeth i’r lan oddi ar ynys Melita ddeng niwrnod yn ôl yn cael eu hanfon i bedair o wledydd yr Undeb Ewropeaidd.

Daeth cadarnhad y byddan nhw’n cael eu hanfon i’r Almaen, Ffrainc, Portiwgal a Lwcsembwrg

Ond fydd gan y llong Almaenig oedd wedi eu hachub ddim hawl i fynd i mewn i borthladdoedd Melita.

Mae Melita a Libya wedi gwahardd llongau dyngarol rhag cael mynediad i’w porthladdoedd am eu bod o’r farn eu bod yn annog symud pobol yn anghyfreithlon.

Mae pryderon am gyflwr iechyd rhai o’r ffoaduriaid, ar ôl iddyn nhw orfod derbyn triniaeth am salwch.