Mae disgwyl i rai o’r 360 o bysgotwyr o India a gafodd eu cadw yn y ddalfa ym Mhacistan ddychwelyd adref yn fuan.

Cafodd 360 o bysgotwyr eu cadw yn y ddalfa am bysgota’n anghyfreithlon yn y Môr Arabaidd.

Bydd 100 ohonyn nhw’n teithio ar drên dan warchae i Lahore cyn cael eu trosglwyddo i ofal awdurdodau India ar y ffin.

Mae’r ddwy wlad yn arestio pysgotwyr ei gilydd yn aml, a’u cadw yn y ddalfa tan bod cytundeb rhyngddyn nhw.

Mae disgwyl i’r carcharorion eraill gael mynd adref yn ddiweddarach yn y mis.

Fe fu tensiynau rhwng y ddwy wlad ers tro yn sgil anghydfod hirdymor tros ranbarth Kashmir.