Mae un o uwch-swyddogion Ecwador yn dweud nad oes yna benderfyniad wedi ei wneud i hel Julian Assange o lysgenhadaeth y wlad yn Llundain.

Bu sylfaenydd WikiLeaks yn cael llochesu yn Llysgenhadaeth Ecwador ers 2012, a bu adroddiadau diweddar ei fod wedi cael gorchymyn i adael “o fewn naill ai’r oriau neu’r dyddiau nesaf”.

Mae’r Unol Daleithiau eisiau ei estraddodi ar ôl i WikiLeaks gyhoeddi gwybodaeth filwrol a diplomyddol gyfrinachol.

Yn gynharach, fe drydarodd WikiLeaks: ‘YN TORRI: Mae ffynhonnell o fewn gwladwriaeth Ecwador wedi dweud wrth @WikiLeaks fod Julian Assange yn wynebu cael ei wahardd ‘o fewn naill ai’r oriau neu’r dyddiau nesaf’…’

Mae awdur y trydariad yn honni ymhellach fod rhan WikiLeaks yn cyhoeddi gwybodaeth sydd wedi creu sgandal o fewn gweinyddiaeth Arlywydd Ecwador, yn rheswm sy’n cael ei ddefnyddio i wahardd Julian Assange.

Mewn datganiad, dywedodd swyddfa dramor Ecwador nad ydyn nhw’n “gwneud sylw ar unrhyw sïon, theorïau na dyfaliadau”.

Ond yn ddiweddarach, fe wadodd uwch-swyddog o’r wlad unrhyw fwriad i wahardd Julian Assange o’r llysgenhadaeth.