Mae llywodraeth Seland Newydd wedi cyflwyno mesur, y mae’n gobeithio daw’n ddeddfwriaeth yn fuan, a fyddai’n gwahardd y mathau o arfau gafodd eu defnyddio gan ddyn arfog i ladd 50 o bobol mewn dau fosg.

Dywed y gweinidog sydd â chyfrifoldeb am yr heddlu, Stuart Nash, y byddai’r mesur yn dod i rym ar Ebrill 12 os yw’n cael ei basio. Fe fyddai hynny lai na mis ers yr ymosodiadau yn Chrustchurch ar Fawrth 15.

Cafodd y cynlluniau i newid y gyfraith eu cyhoeddi gan y Prif Weinidog, Jacinda Ardern, yn y dyddiau ar ôl yr ymosodiadau, pan oedd y llywodraeth wedi cyhoeddi gwaharddiad brys ar werthiant o arfau o’r math.

Mae’r mesur wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol ac fe allai gael ei basio gyda phleidlais unfrydol gan y 120 o Aelodau Seneddol.

Mae gwkeidyddion yn gobeithio cyflwyno rhagor o ddeddfwriaeth yn ddiweddarach yn y flwyddyn gan gynnwys creu cofrestr o ynnau.