Mae’r heddlu yn Bangladesh wedi arestio dau o berchnogion adeilad lle cafodd 26 o bobol eu lladd mewn tân ddydd Iau (Mawrth 28).

Cafodd oddeutu 70 o bobol eu hanafu yn y digwyddiad yn Dhaka.

Mae Tasvir-ul-Islam ac SMHI Faruque wedi’u cyhuddo o esgeulustod a thorri rheolau adeiladu gan achosi anafiadau.

Doedd dim grisiau gwrth-dân yn yr adeilad a chafodd nifer o loriau’r adeilad eu hadeiladu’n anghyfreithlon, meddai’r awdurdodau.

Roedd nifer o bobol yn sownd yn yr adeilad, a nifer ohonyn nhw’n galw am gymorth o’r lloriau uchaf a’r to.

Mae’r heddlu’n parhau i chwilio am bennaeth y cwmni adeiladu oedd wedi ceisio caniatâd adeiladu yn 1996, ond a aeth yn eu blaenau i’w godi’n anghyfreithlon.