Mae digrifwr sy’n mentro i’r byd gwleidyddol am y tro cyntaf ar frig polau piniwn ar drothwy etholiadau arlywyddol yr Wcráin.

Ond mae’n annhebygol y bydd Volodymyr Zelenskiy yn mynd y tu hwnt i’r rownd gyntaf.

Mae 39 o ymgeiswyr yn y ras i arwain y wlad sydd â phoblogaeth o 42 miliwn ond sy’n wynebu llygredd ariannol, rhyfel cartref ac economi wan.

Mae’r Arlywydd Petro Poroshenko yn ymgeisio am dymor arall, ond dim ond 13.7% o bleidleiswyr sy’n ei gefnogi, yn ôl y polau.

Mae gan Volodymyr Zelenskiy, a ddaeth i amlygrwydd wrth chwarae cymeriad yr arlywydd mewn cyfres gomedi ar y teledu, 20.9% o’r bleidlais yn ôl y polau.

Yulia Tymoshenko, cyn-brif weinidog y wlad sy’n mynd am yr arlywyddiaeth am y trydydd tro, sy’n drydydd gyda 9.7%.

Pe na bai mwyafrif heddiw (dydd Sul, Mawrth 30), fe fydd rhaid cynnal etholiad pellach rhwng y ddau brif ymgeisydd ar Ebrill 21.