Mae tri ffoadur wedi cael eu cyhuddo o gipio llong a bygwth ei chriw oddi ar ynys Melita.

Mae’r troseddau’n rhai brawychol yn ôl cyfreithiau’r ynys.

Abdalla Bari yw enw’r dyn 19 oed o Guinea, ond dydy’r ddau arall ddim wedi cael eu henwi o ganlyniad i’w hoedrannau ond maen nhw’n dod o Guinea a’r Côte d’Ivoire.

Mae’r tri wedi’u hamau o gipio tancer olew yn y Môr Canoldir, a defnyddio dulliau treisgar o wneud hynny wrth iddyn nhw sylweddoli bod y llong yn eu cludo’n ôl i Libya.

Fe wnaethon nhw orfodi’r llong i anelu am arfordir Ewrop, gan ddweud bod angen achub hyd at 100 o ffoaduriaid oddi ar arfordir Twrci.

Mae’r Eidal yn eu cyhuddo o fod yn fôr-ladron.

Maen nhw’n gwadu’r holl gyhuddiadau yn eu herbyn.

Fe allen nhw wynebu hyd at 30 o flynyddoedd o garchar.