Mae llys yn Awstralia wedi barnu nad yw rhechan yn agos at gydweithiwr o reidrwydd yn golygu bwlio.

Roedd David Hingst, peiriannydd 56 oed, wedi ceisio hawlio $1.8m (3980,000) gan gwmni Construction Engineering yn Melbourne, oherwydd bod ei oruchwyliwr Greg Short yn ei fwlio  drwy ollwng gwynt drwg arno.

Yn ôl David Hingst, roedd wedi gorfod gadael y swyddfa gymunedol roedd yn ei rhannu gyda Greg Short, er mwyn osgoi’r oglau drwg.

Fe symudodd David Hingst i swyddfa lai – a oedd heb ffenestr – er mwyn osgoi Greg Short.

Ond yn ôl David Hingst, byddai Greg Short yn dod i’r swyddfa fechan i rechan sawl gwaith y dydd.

“Byddai yn rhechan y tu ôl i mi ac yn cerdded i ffwrdd, ac yn gwneud hyn rhyw bump neu chwe gwaith y dydd,” meddai David Hingst.

Dywedodd Greg Short wrth Llys Apêl Victoria nad oedd yn cofio rhechan yn swyddfa David Hingst, “ond hwyrach fy mod i wedi gwneud ryw unwaith neu ddwy”.

Roedd David Hingst wedi ceisio dadlau bod y rhechu yn gyfystyr ag ymosod, yn ôl y barnwyr.

Ond fe benderfynon nhw nad oedd Greg Short wedi bwlio nac aflonyddu ar David Hingst.

Er iddo ddadlau ei fod wedi ei fwlio o’i waith, roedd cwmni Construction Engineering yn mynnu bod ei swydd wedi dod i ben oherwydd bod llai o waith adeiladu yn dilyn creisus ariannol 2008.