Fe fydd arlywydd De Corea yn teithio i’r Unol Daleithiau i gyfarfod Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, er mwyn trafod diplomyddiaeth niwclear.

Bydd Moon Jae-in yn ymweld â’r Unol Daleithiau ar Ebrill 10-11 er mwyn cyfarfod Donald Trump i drafod sut mae cyflawni’r ymgais o gael gwared ag arfau niwclear a chael heddwch yno.

Hwn fydd cyfarfod cyntaf y ddau ers ail gyfarfod Donald Trump gydag arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un, yn Hanoi fis diwethaf wnaeth fethu oherwydd anghytundeb ynglyn a sancsiynau gan yr Unol Daleithiau.

O ganlyniad mae Moon Jae-in, sydd wedi ceisio gwella’r berthynas rhwng Washington a Pyongyang – prifddinas Gogledd Corea, mewn safle anodd o ran sut i ymgysylltu ymhellach a Gogledd Corea er mwyn hwyluso’r ddiplomyddiaeth niwclear.