Mae Seland Newydd wedi bod yn cofio am y 50 o bobl gafodd eu lladd ar ôl ymosodiad brawychol mewn dau Fosg yn ninas Christchurch bythefnos yn ôl.

Mewn gwasanaeth cenedlaethol o flaen tua 20,000 o bobol yn Hagley Park, dywed un o’r goroeswyr ei fod yn maddau’r saethwr.

“Dydw i ddim eisiau cael calon sydd yn berwi fel llosgfynydd,” dywed Faric Ahmed.

“Mae gan losgfynydd ddicter a llid. Does ganddi ddim heddwch. Mae ganddi gasineb. Mae hi’n llosgi ei thu fewn, ac yn llosgi beth sydd o’i chwmpas hi. Dydw i ddim eisiau cael calon fel hyn.”

Dyma’r trydydd gwasanaeth coffa sydd wedi cael ei gynnal yn Christchurch ers 15 Mawrth, pan gafodd yr addolwyr eu saethu’n farw.

Mae Brenton Harrison Tarrant, 28, o Awstralia wedi cael ei gyhuddo o’r llofruddiaethau.