Mae eithafwr asgell-dde yn Awstria yn dweud ei fod wedi derbyn arian gan y saethwr Mwslimaid yn Christchurch, Seland Newydd.

Dywed Martin Sellner, arweinydd grŵp Identitatian Movement Austria, ar y cyfryngau cymdeithasol fod yr heddlu wedi archwilio ei gartref a chymryd ei ddyfeisiau trydanol oddi arno wrth edrych i mewn i’r cysylltiad rhwng y ddau.

Mae’n dwued fod “rhodd anghymesur o hael” wedi dod gan rywun gyda’r enw Tarrant – yr un cyfenw â’r saethwr dan amheuaeth, Brenton Tarrant, yn Christchurch.

Dywed Martin Sellner hefyd ei fod yn cael ei archwilio dan amheuaeth o “ffurfio neu fod yn aelod o sefydliad brawychol”, ond mae’n gwadu hynny.

Cafodd 50 o bobol eu llad yn yr ymosodiad brawychol ym mosg Al Noor ar Fawrth 15.