Mae dadansoddwyr o bob cwr o’r byd sydd wedi bod yn cadw llygad ar etholiad Gwlad Thai, yn dweud ei fod “yn ddiffygiol”.

Yn ôl yr Asian Network for Free Elctions, roedd rhai o’r canlyniadau “yn wyllt o anghywir” a bod hynny wedi chwalu “onestrwydd yr etholiad cyffredinol”.

Mae Comisiwn Etholiadol Gwlad Thai wedi amddiffyn y cownt, gan ddweud y bydd y canlyniadau llawn yn cael eu cyhoeddi ddydd Gwener (Mawrth 29). 

Daw sylwadau’r dadansoddwyr wrth i blaid sydd â chefnogaeth y milwyr, a’r blaid gafodd ei threchu gan y fyddin yn 2014, honni y dylai’r ddwy ohonyn nhw ffurfio’r llywodraeth nesaf.

Mae’r canlyniadau dros dro yn dangos mai’r blaid sydd yn erbyn y fyddin sydd wedi ennill y mwyafrif o seddi, ond mae’n ymddangos mewn arolwg ddydd Sul (Mawrth 24) mai’r blaid y tu ôl i’r fyddin sydd wedi ennill y mwyaf o bleidleisiau.