Mae awyren byddin Israel wedi bomio targedau ar draws Llain Gaza ac mae gwrthryfelwyr yn tanio rocedi’r ffordd arall wrth i’r ymladd bsrhau am ail ddiwrnod.

Fe ail-ddechreuodd y cwffio ar ôl i daflegryn gael ei saethu o Gaza yn gynnar fore ddoe (dydd Llun, Mawrth 25), tir sydd yn cael ei reoli gan wrthryfelwyr y grŵp Islamaidd, Hamas, ers 2007.

Fe darodd y taflegryn dŷ yn Israel gan anafu saith o bobol.

Fe ddanfonodd Israel filwyr i Lain Gaza wrth i arweinwyr Hamas ffoi ac i’r ddwy ochr wrthdaro eto ers rhyfel Israel-Hamas yn 2014.