Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, yn nesau at fuddugoliaeth dros y Democratiaid ar fater “argyfwng cenedlaethol” ffin Mecsico.

Mewn pleidlais yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 26) – os yw’n mynd yn ôl y disgwyl – mi fydd y statws “argyfwng” yn aros, a bydd Donald Trump yn gallu cymryd $3.6bn o gyllideb y fyddin er mwyn codi wal ar y ffin.

Roedd cyhoeddi “argyfwng cenedlaethol” ar ffin Mecsico yn golygu y gallai fynd heibio’r Gynghres ac yn syth i Dŷ’r Cynrychiolwyr.

Mae’r Democratiaid wedi protestio yn erbyn rhoi arian i adeiladu’r wal a fyddai’n 57 milltir o hyd.

Ond roedd adeiladu’r wal yn un o’i brif addewidion trwy gydol ei ymgyrch etholiadol, ac fe ddywedodd ar y pryd y byddai’r pres yn dod o Fecsico, yn hytrach nag o arian trethdalwyr America.