Mae Donald Trump wedi arwyddo datganiad sy’n cydnabod sofraniaeth Israel dros Golan, gan fynd yn groes i hanner canrif o bolisi yr Unol Daleithiau.

Wrth sefyll ochr yn ochr â Phrif Weinidog Israel – Benjamin Netanyahu – yn y Tŷ Gwyn, mae’r Arlywydd wedi ffurfioli’r cyhoeddiad a wnaeth ar Twitter yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd ei bod yn bryd i’r Unol Daleithiau weithredu 52 o flynyddoedd ar ôl i Israel feddiannu’r ucheldiroedd sy’n ffinio â Syria.

Fe gipiodd Israel y Golan Heights oddi ar Syria yn ystod rhyfel yn 1967, ond dyw ei sofraniaeth dros y rhanbarth ddim wedi cael ei chydnabod gan y gymuned ryngwladol.

Roedd Benjamin Netanyahu wedi bod yn pwyso am gydnabyddiaeth gan yr Unol Daleithiau ers misoedd.