Mae plaid, sydd yn cael ei gefnogi gan y fyddin, yn arwain yn ôl canlyniadau rhagarweiniol etholiad Gwlad Thai.

Gyda 93% o’r pleidleisiau wedi cael eu cyfrif yn hwyr ddoe (Dydd Sul, Mawrth 25), plaid y Palang Pracharat oedd ar y blaen gyda bron i 7.6 miliwn o bleidleisiau, yn ôl Comisiwn Etholaethol y wlad.

Mae’r ffigurau cynnar hyn yn awgrymu y gall arweinydd y blaid honno a’r Prif Weinidog, Prayhuth Chan-ocha aros mewn grym gyda chymorth system etholaethol sy’n ffafrio’r fyddin.

O ganlyniad i gyfanswm y bleidlais, nid oes mwyafrif i greu un Llywodraeth, felly mae’n debygol y bydd wythnosau o drafod rhwng y pleidiau gwleidyddol cyn creu clymblaid ym mis Mai neu Fehefin.