Mae’r canwr a’r cyfansoddwr Scott Walker wedi marw yn 76 oed, meddai ei gwmni recordio.

Roedd Scott Walker yn un o dri aelod o’r grŵp The Walker Brothers a gafodd ei ffurfio yn Los Angeles yn 1964.

Roedd y grŵp yn eu hanterth yn y 1960au a’r 1970au ac yn enwog am ganeuon fel Make It Easy on Yourself a The Sun Ain’t Gonna Shine (Anymore).

Fe fu Scott Walker yn perfformio ar ben ei hun yn ddiweddarach.

Mae’n gadael merch, wyres a’i bartner Beverly, meddai’r label 4AD mewn datganiad.