Mae ymchwiliad wedi dod i’r casgliad nad oes tystiolaeth bod tîm ymgyrchu Donald Trump wedi “cynllwynio” gyda Rwsia i ddylanwadu ar etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau yn 2016.

Ond nid yw adroddiad hir-ddisgwyliedig Robert Mueller yn dod i’r casgliad bod yr Arlywydd wedi atal cyfiawnder ai peidio, meddai’r Twrne Cyffredinol William Barr, gan ychwanegu nad oedd digon o dystiolaeth i brofi hynny.

Serch hynny, mae Donald Trump wedi trydar bod ei enw yn glir a’i fod yn “drueni” bod y wlad wedi gorfod mynd trwy’r broses o gynnal yr ymchwiliad.

Cafodd crynodeb pedair tudalen o adroddiad Robert Mueller ei gyhoeddi ddydd Sul. Mae’r ymchwiliad wedi taflu cysgod dros arlywyddiaeth Donald Trump ers bron i ddwy flynedd.

Yn ôl y Democratiaid mae cwestiynau i’w hateb o hyd ac mae angen gweld y dystiolaeth i gyd.