Mae hyd at 20 tunnell o gymorth dyngarol o wledydd Prydain yn cael ei anfon i helpu’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan Seiclon Idai yn ne ddwyrain Affrica.

Maen na amcangyfrif bod 1.8 miliwn o bobol ar draws Mozambique wedi cael eu heffeithio gan y seiclon, sydd hefyd wedi effeithio rhannau o Malawi a Zimbabwe.

Mae disgwyl i’r Awyrlu gludo cymorth yn cynnwys llochesi ac offer puro dŵr, meddai’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Fe fydd yr awyren yn cludo cymorth i 37,500 o bobol sydd angen lloches ar frys. Mae adroddiadau bod o leiaf 17,400 o gartrefi wedi cael eu difrodi gan y seiclon a’r llifogydd a ddilynodd.