Mae’r awdurdodau yn Ffrainc yn dweud y byddan nhw’n gwneud yn siŵr heddiw na fydd protestiadau’n troi’n reiat ar strydoedd Paris.

Mae gwrthdystiadau’r ‘festiau melyn’ wedi cael eu gwahardd o ardal y Champs-Elysees yn y brifddinas, yn ogystal ag o ddinasoedd Bordeaux, Toulouse, Marseille a Nice yn y de, ynghyd â Rouen yn Llydawr, wedi i bethau fynd dros ben llestri yr wythnos ddiwethaf.

Ond fe fydd protestiadau rhwng sgwâr Denfert-Rochereau yn ne Paris, a’r ganolfan dwristaidd, Montmartre. yn y gogledd, yn cael eu caniatadu.

Mae pennaeth newydd heddlu Paris, Didier Lallement, a ddaeth i’w swydd yn dilyn blerwch yr wythnos ddiwethaf, yn dweud y bydd unedau newydd o blismyn ar y strydoedd yn gallu ymateb yn gyflymach i unrhyw ymddygiad treisgar.

Mae tua 6,000 o heddweision ar ddyletswydd heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 23) er mwyn cadw trefn.