Fe fydd y dyn sy’n cael ei amau o gyflawni’r ymosodiad yn ninas Utrecht yn cael ei gadw yn y ddalfa am gyfnod o bythefnos arall.

Daw’r ymestyniad wrth i’r awdurdodau gredu bod y weithred a gafodd ei chyflawni ar dram yn yr Iseldiroedd yn un frawychol.

Mae llys yn y wlad bellach wedi cadarnhau y bydd Gokmen Tanis sy’n cael ei amau o ladd tri pherson, yn cael ei gadw o dan glo am 14 diwrnod pellach.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y barnwr fod amheuon yn “ddigon cryf” erbyn hyn i fedru cyfiawnhau cadw’r dyn 37 yn y ddalfa am gyfnod hirach.

Cafodd Gokmen Tanis ei arestio ddydd Llun (Mawrth 18), a hynny dwy awr ar ôl yr ymosodiad.