Mae apêl Seiclon Idai gan y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC) wedi codi £8m mewn 24 ar gyfer y rhai sydd wedi cael eu heffeithio yn Affrica.

Yn dilyn y seiclon mae dros 1,000 wedi marw, ac mae cannoedd ar filoedd o bobol wedi cael eu dadleoli yn rhannau o Mozambique, Malawi a Zimbabwe.

Dywed llywodraeth gwledydd Prydain ei bod wedi cynyddu ei chyfraniad o £2m i £4m yn dilyn y swm gafodd ei godi gan y cyhoedd.

Mae hyn yn ychwanegu at yr £18m sydd o gymhorthdal sydd eisoes wedi ei roi gan y llywodraeth.

Mae Swyddfa Datblygu Rhyngwladol wedi danfon awyrennau i helpu llywodraeth Mozambique i gludo generaduron i ardaloedd heb drydan.

Mae cefnogaeth hefyd er mwyn sicrhau bod bwyd yn cael ei baratoi i deuluoedd sydd wedi’u dadleoli.