Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi dweud bod Washington DC yn cydnabod sofraniaeth Israel yn ardal Golan.

Fe gipiodd Israel yr ucheldir oddi ar Syria yn 1967 – ac mae’r wlad honno eisiau’r tir yn ôl.

O Syria i Dwrci, mae beirniadaeth hallt wedi bod ar benderfyniad Donald Trump.

Yn ôl Llywodraeth Syria, mae’n “anghyfrifol” ac yn fygythiad i heddwch a sefydlogrwydd rhyngwladol, tra mae gweinyddiaeth dramor Iran yn dweud ei fod yn gorfodi’r rhanbarth i argyfwng newydd.

Dywed y Weinyddiaeth Dramor yn Damascus, prifddinas Syria, hefyd bod datganiad Donald Trump yn cadarnhau “cefnogaeth ddall yr Unol Daleithiau i’r endid Seionaidd” ac na fydd yn newid “y ffaith bod y Golan yn parhau i fod yn Arabaidd ac yn dir i Syria.”

Mae’r newyddion yn dangos newid mawr ym mholisi’r Unol Daleithiau, ac yn rhoi help llaw i Brif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu fis o flaen etholiad.