Bydd pobol ledled Seland Newydd a’r byd yn gwrando ar weddi Fwslemaidd heddiw (dydd Gwener, Mawrth 22) er mwyn nodi wythnos ers y gyflafan yn Seland Newydd lle cafodd 50 o bobol eu saethu’n farw.

Bydd Prif Weinidog Seland Newydd, Jacinda Ardern yn ymuno â miloedd o bobol eraill wrth iddyn nhw ymgasglu ym Mharc Hagley, sydd gyferbyn â mosg Al Noor yn y ddinas, yn ystod y prynhawn.

Mae disgwyl i’r weddi gael ei chynnal am 1.30yp, gyda dwy funud o dawelwch yn ei dilyn.

Bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu’n fyw ar y teledu a’r radio.

Cafodd o leiaf 42 o bobol eu lladd ym mosg Al Noor, ac o leiaf saith mewn mosg arall gerllaw ddydd Gwener ddiwethaf (Mawrth 15).

Yn ôl yr arweinydd Mwslemaidd, Gamal Fouda, mae yna fwriad i ailagor y mosg yr wythnos nesaf, a hynny yn dilyn gwaith adnewyddu i’r adeilad.