Mae plaid Fidesz yn Hwngari, o dan arweiniad prif weinidog y wlad, Viktor Orban, wedi cael ei gwahardd o fod yn rhan o brif grŵp asgell-dde Ewrop.

Daw hyn yn dilyn dadleuon hirwyntog dros bolisïau a gwerthoedd y blaid, ynghŷd a’i hymgyrch danbaid yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd 190 aelod o Blaid Pobol Ewrop (EPP), sef prif blaid ganol asgell-dde yn yr Undeb Ewropeaidd, wedi pleidleisio o blaid y penderfyniad i wahardd Fidesz o’r grŵp, a thri yn erbyn hynny.

Mae’n golygu na fydd Fidesz yn gallu cynnig ymgeiswyr yn y grŵp, na phleidleisio, na mynychu cyfarfodydd.

Er y gwaharddiad, dywed Viktor Orban fod y grŵp yn dal i fod yn “unedig” cyn etholiadau Ewrop ar Fai 23.

Mae polisïau awdurdodol Viktor Orban, ei wrthwynebiad i’r Undeb Ewropeaidd, ynghyd â’i bolisïau yn gwrthwynebu ymfudwyr wedi golygu ei fod yn tynnu’n groes i nifer o aelodau eraill y grŵp ers tro.