Mae fferi wedi’i gorlwytho â phobol yn dathlu’r flwyddyn newydd Gwrdaidd, wedi suddo yn afos Tigriss ger dinas Mosul yn Irac/

Mae beth bynnag 40 o bobol wedi cael eu lladd, yn ôl adroddiadau.

Fe ddigwyddodd y ddamwain wrth i ddwsinau o bobol fynd i ddathlu Nowruz, y flwyddyn newydd Gwrdaidd a dyfodiad y gwanwyn.

Yn ôl yr awdurdodau, merched a phlant oedd nifer fawr o’r rheiny sydd wedi marw, ac mae’r ymgyrch i achub pobol o’r dŵr yn parhau.