Mae Radovan Karadzic, cyn-arweinydd Serbiaid Bosnia, yn disgwyl clywed a yw ei apêl yn erbyn troseddau rhyfel wedi llwyddo.

Cafodd ei ddedfrydu i 40 o flynyddoedd o garchar ar ôl i lys ei gael yn euog o droseddau rhyfel yn ymwneud â rhyfel ei wlad rhwng 1992 a 1995.

Mae’r rhyfel yn cael ei ystyried ymhlith y gwaethaf yn Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd, wrth i fwy na 100,000 o bobol gael eu lladd, a miliynau o bobol gael eu gadael yn ddigartref.

Mae teuluoedd nifer o’r rhai a gafodd eu lladd yn y llys i glywed canlyniad apêl un o’r ffigurau mwyaf blaenllaw i sefyll ei brawf yn y llys Ewropeaidd.