Mae lluoedd arfog Israel yn dweud eu bod nhw wedi saethu dau o Balestiniaid yn farw ar ôl ymosodiad arnyn nhw mewn dinas ar y Lan Orllewinol.

Cafodd nifer o ffrwydron eu taflu at y swyddogion oedd yn gwarchod addolwyr Iddewig yn ninas Nablus.

Y ddau a gafodd eu lladd oedd Raed Hamadan, 21, a Zeid Nouri, 20.

Daw’r digwyddiad ddiwrnod ar ôl i luoedd Israel ladd Palestiniad oedd wedi’i amau o drywanu a saethu dau o bobol ar y Lan Orllewinol.

Cafodd Omar Abu Leila, 19, ei saethu’n farw wrth saethu at filwyr oedd yn ceisio’i arestio.

Daw’r digwyddiadau ar ôl cyfnod o heddwch yn yr ardal.