Mae’r unig arweinydd y mae Kazakhstan wedi’i gael ers mynd yn annibynnol, wedi ymddiswyddo ar ôl 30 mlynedd yn y swydd.

Fe ddaeth cyhoeddiad Nursultan Nazarbayev, 78, ddoe (dydd Mawrth. Mawrth 19) gan ddweud ei fod yn un o’r penderfyniadau mwyaf anodd y bu’n rhaid iddo ei wneud erioed.

Mae’r cyhoeddiad wedi gwneud pobol y wlad yn ansicr ynglŷn â’i dyfodol.

Wrth siarad ar deledu’r wlad, fe gyhoeddodd yr arweinydd y byddai’n camu o’i swydd heddiw (dydd Mercher, Mawrth 20), a hynny heb roi rheswm tros ei benderfyniad.

“Mae hi wedi bod yn anrhydedd i gael gwasanaethu fy mhobol,” meddai Nursultan Nazarbayev, “a fy nyletswydd i bellach yw gwneud yn siŵr fy mod yn trosglwyddo grym i genhedlaeth newydd o wleidyddion.

“Dw i wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd i gyflawni dymuniadau fy mhobol.”