Mae llywydd Pwyllgor Gemau Olympaidd Japan yn rhoi’r gorau i’w swydd, yn dilyn cyhuddiadau o dwyll yn ei erbyn.

Mae archwilwyr o Ffrainc yn honni fod Tsunekazu Takeda wedi twyllo er mwyn sicrhau bod y Gemau Olympaidd yn cael eu cynnal yn Tokyo y flwyddyn nesaf.

Er ei fod yn gwadu’r cyhuddiadau hyn, mae wedi cyhoeddi gerbron y pwyllgor ei fod yn ymddiswyddo pan mae ei dymor yn dod i ben ym mis Mehefin eleni.

Mae Tsunekazu Takeda, 71, hefyd yn aelod blaenllaw o Bwyllgor Rhyngwladol y Gemau Olympaidd ac yn bennaeth ar ei gomisiwn marchnata.

Cyhuddiadau

Mae’r sgandal wedi bod yn cael ei archwilio gan awdurdodau Ffrainc ers nifer o flynyddoedd, ac mae hi wedi bod yn gwmwl tywyll dros Gemau Olympaidd Tokyo, a ffordd mae’r Pwyllgor Rhyngwladol yn cynnal ei broses ddewis.

Mae Tsunekazu Takeda yn cyfaddef ei fod wedi arwyddo taliad o £1.5 miliwn i gwmni ymgynghori yn Singapôr o’r enw Black Tidings.

Roedd y taliadau hyn wedi dod ychydig cyn i Tokyo gael ei ddewis yn 2013 gan Bwyllgor Rhyngwladol y Gemau Olympaidd o flaen Istanbwl a Madrid.

Mae archwilwyr Ffrainc wedi cysylltu Black Tidings i ddyn o’r enw Papa Massata Diack, sy’n fab i gyn aelod y Pwyllgor Rhyngwladol, Lamine Diack o Senegal.

Roedd gan Lamine Diack ddylanwad enfawr ar bleidleiswyr y Gemau Olympaidd yn Affrica.

Fe fydd y gemau yn dechrau ar Orffennaf 24, 2020, ac mae Japan yn gwario o leiaf £15bn ar y trefniadau.