Mae trydydd person wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r ymosodiad ar dram yn ninas Utrecht yn yr Iseldiroedd, lle cafodd tri o bobol eu lladd a phump eu hanafu.

Yn ôl erlynwyr y wlad, mae’r tri pherson bellach yn y ddalfa, ac yn cynnwys y saethwr honedig Gokmen Tanis, 37. Mae’r ddau arall yn cael eu hamau o fod â rhan yn y digwyddiad.

Mae Gokmen Tanis yn cael ei amau o gyflawni dynladdiad gyda chymhelliad brawychol posib, ond ychwanega’r erlynwyr fod yr ymchwiliad i’r ymosodiad yn parhau.

Yn ôl adroddiadau’r wasg yn yr Iseldiroedd, mae cymdogion Gokmen Tanis yn Utrecht yn credu bod y saethu yn gysylltiedig â pherthynas.

Dywedodd gweinidog cyfiawnder, Ferd Grapperhaus, fod yr awdurdodau yn “ymwybodol” o Gokmen Tanis o flaen llaw a bod ganddo record troseddol.