Mae Prif Weinidog Seland Newydd wedi dweud na fydd hi byth yn enwi’r person sy’n cael ei amau o saethu hanner cant o bobol mewn dau fosg yn Christchurch.
Mewn araith ddirdynnol gerbron senedd y wlad, mae Jacinda Ardern wedi annog eraill “i enwi’r rheiny a gollodd eu bywydau, yn hytrach nag enw’r dyn a wnaeth eu dwyn.”
“Roedd ganddo sawl bwriad wrth gyflawni’r weithred frawychol hon, ac roedd un ohonyn nhw’n enwogrwydd,” meddai. “Dyna pam fydda ddim yn ei enwi, byth.”
Ychwanegodd Jacinda Ardern y byddai’r drwgweithredwr yn wynebu “holl rym y gyfraith” yn Seland Newydd, ac y byddai holl deuluoedd y rhai a gollwyd yn “derbyn cyfiawnder”.
Y cefndir
Mae 30 o bobol yn dal i fod yn yr ysbyty yn dilyn y ddau ymosodiad ddiwedd yr wythnos ddiwethaf. Mae naw ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.
Cafodd Brenton Tarrant, 28, sy’n hanu o Awstralia, ei gyhuddo o lofruddiaeth ar ôl ymddangos o flaen ei well dros y penwythnos (dydd Sadwrn, Mawrth 16).
Mae’n debyg bod fideo o’r ymosodiad wedi cael ei ffrydio yn fyw ar Facebook, cyn cael ei ddileu.
Yn ôl rheolwyr y wefan gymdeithasol, cafodd 1.5m o fideos eu dileu o fewn 24 awr i’r digwyddiad, gyda 1.2m wedi eu dileu cyn cael eu huwchlwytho.