Mae prif weithredwr cwmni Boeing yn dweud eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud yn siŵr fod awyrennau 737 yn ddiogel.

Fe ddaw llythyr agored Dennis Muilenburg at gwmniau hedfan yn dilyn dwy ddamwain lle mae awyrennau 737 wedi syrthio i’r ddaear, gan ladd cyfanswm o 346 o bobol.

Mae’n dweud y bydd Boeing yn cyhoeddi diweddariad am y math o feddalwedd y mae’r awyrennau yn ei defnyddio, a hefyd yn cynnig hyfforddiant i beilotiaid yn benodol ar gyfer hedfan y 737 Max. Bydd hynny yn taclo’r “amheuon” gododd yn dilyn damwain ym mis Hydref y llynedd, a laddodd 189 o bobol.

Mae cwmni Boeing yn cydweithio’n llawn gyda’r ymchwiliad i achos y ddamwain ddiweddara’ yn Ethiopia yr wythnos ddiwethaf, a laddodd 157 o bobol.

Mae nifer o wledydd wedi gwrthod gadael i’r Boeing Max 8 hedfan drostyn nhw, nac ohonyn nhw, wrth i’r ymchwiliad i’r ddamwain ddiweddara’ fynd rhagddo.