Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn sy’n cael ei amau o ymosod ar dram yn ninas Utrecht yn yr Iseldiroedd, lle cafodd tri pherson eu lladd a naw eu hanafu.

Yn ôl yr heddlu, mae ymchwiliad yn ystyried y posibilrwydd o “gymhelliad brawychol”, ac maen nhw wedi cysylltu Gokman Tanis, 37, sy’n wreiddiol o Dwrci, â’r ymosodiad.

Mae byddin yr Iseldiroedd ar hyn o bryd yn cadw golwg ar feysydd awyr ac adeiladau allweddol yn y wlad, tra bod y cyhoedd wedi cael eu cynghori i beidio ag agosáu at y saethwr honedig, os ydyn nhw’n dod ar ei draws.

Yn gynharach yn y dydd, fe ddywedodd Prif Weinidog yr Iseldiroedd, Mark Rutte, ei fod yn “bryderus iawn”.

Mae Ysgrifennydd Tramor gwledydd Prydain, Jeremy Hunt, wedi anfon ei gefnogaeth i’r Iseldiroedd, gan ddweud bod Llywodraeth Prydain mewn cysylltiad a’r awdurdodau er mwyn cael “mwy o wybodaeth”.