Derbyniodd swyddfa prif weinidog Seland Newydd ddogfen gan saethwr Christchurch naw munud cyn yr ymosodiad ar ddau fosg.
Roedd y ddogfen a gafodd ei hanfon at Jacinda Ardern yn cynnwys maniffesto honedig gan Brenton Tarrant, ac fe gafodd ei hanfon at fwy na 30 o bobol funudau’n unig cyn iddo ddechrau saethu.
Mae 50 o bobol wedi marw erbyn hyn.
“Doedd hi ddim yn cynnwys lleoliad,” meddai’r prif weinidog am y ddogfen.
“Doedd hi ddim yn cynnwys manylion penodol.
“O fewn dwy funud ar ôl ei derbyn, cafodd ei rhoi i swyddogion diogelwch y senedd.
“Pe bai’n cynnwys manylion, gellid fod wedi gweithredu ar unwaith ond yn anffodus, doedd dim manylion o’r fath yn yr e-bost.”
Dywed fod y ddogfen yn “destun pryder dwys”.
Y ddogfen
Mae lle i gredu bod y ddogfen 74 tudalen wedi cael ei llunio gan Brenton Tarrant.
Mae’n amlinellu ei gymhelliant gwrth-fewnfudo, ac mae’n cynnwys cyfres o gwestiynau ac atebion, gan gynnwys ‘pwy ydych chi?’
Yr ateb, mae’n debyg, yw ’dyn gwyn cyffredin, 28 oed, ganwyd yn Awstralia i deulu dosbarth gweithiol ar incwm isel’.
Dywed fod ei rieni o dras Brydeinig a’i fod wedi cael ‘plentyndod cyffredin’.
Mae’n dweud mai ychydig iawn o ddiddordeb oedd ganddo yn ei addysg yn yr ysgol, gan ennill graddau isel.