Mae protestwyr sy’n cyhuddo llywodraeth Albania o lygredd a thor-cyfraith yn galw arnyn nhw i gamu o’r neilltu.

Mae miloedd o bobol wedi ymgynnull y tu allan i swyddfa Edi Rama, y prif weinidog, yn galw arno i ymddiswyddo.

Mae’r wrthblaid wedi ildio’u seddau yn y llywodraeth erbyn hyn, ac yn gwrthod siarad â’r prif weinidog, gan alw am roi llywodraeth dros dro yn ei lle.

Maen nhw wedi cael rhybudd gan yr Unol Daleithiau a’r Undeb Ewropeaidd i drafod mewn modd heddychlon, yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau treisgar yn ddiweddar.

Mae Albania yn gobeithio dechrau trafodaethau ym mis Mehefin er mwyn cael ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.