Mae model a oedd yn un o’r prif dystion yn achos llys Silvio Berlusconi, cyn-arweinydd yr Eidal, wedi marw.

Bu farw Imane Fadil o Foroco yn yr ysbyty yn Milan ar Fawrth 1, yn dilyn pryderon y gallai hi fod wedi cael ei gwenwyno.

Yn ystod yr achos llys yn 2012, dywedodd hi wrth newyddiadurwyr ei bod hi’n gofidio am ei diogelwch ar ôl i erlynwyr glywed ei bod hi wedi cael cynnig arian yn gyfnewid am gadw’n dawel am bartïon lle’r oedd cyffuriau a phuteiniaid yn cael eu cynnig i westeion.

Cafwyd Silvio Berlusconi yn ddieuog yn 2015 o dalu am ryw gyda merched ifanc.