Mae dyn sy’n cael ei ystyried yn bennaeth ar deulu troseddol yn Efrog Newydd wedi cael ei saethu’n farw yn y ddinas.

Cafodd Francesco “Franky Boy” Cali, 53, ei ganfod yn farw yn ei gartref yn ardal Ynys Staten. Cafodd ei gludo i’r ysbyty lle cafodd ei farwolaeth ei gadarnhau yn ddiweddarach.

Roedd erlynwyr ffederal yn Brooklyn wedi cyfeirio at Francesco Cali yn ystod y blynyddoedd diwethaf fel is-bennaeth y teulu Gambino, sy’n â chysylltiadau â’r Maffia yn Sisili.

Ond mae adroddiadau ers 2015 yn dweud iddo gyrraedd safle’r pennaeth.

Y tro diwethaf i bennaeth teulu troseddol yn Efrog Newydd gael ei llofruddio oedd yn 1985, pan gafodd Paul Castellano, a oedd hefyd yn bennaeth ar deulu Gambino, ei saethu’n farw y tu allan i fwyty yn Manhattan.