Mae o leiaf wyth o bobol wedi marw wedi i adeilad tri llawr ddymchwel yn Nigeria.

Bellach mae 37 o bobol wedi cael eu hachub o weddillion yr adeilad yn Lagos, ond mae yna bryderon bod 100 o blant wedi bod yn yr ysgol gynradd ar lawr uchaf yr adeilad.

Does dim sicrwydd ynglŷn â pham y dymchwelodd yr adeilad, ond mae’r fath ddamweiniau yn gyffredin yn Nigeria.

Mae’n debyg bod lloriau ychwanegol yn aml yn cael eu hychwanegu at adeiladau sydd eisoes yn fregus, a bod yna ddiffyg craffu ar waith adeiladwyr yno.

Roedd disgwyl i’r adeilad gael ei ddymchwel rhyw ben gan weithwyr proffesiynol, ac roedd yr ysgolion ar y ddau lawr uchaf yn anghyfreithlon.