Mae mesur sy’n galw ar yr Unol Daleithiau i gefnu ar ryfel Yemen wedi derbyn cefnogaeth mwyafrif yn Senedd y wlad.

Y Seneddwyr, Bernie Sanders a Mike Lee, sydd wedi cyflwyno’r mesur; ac mae disgwyl iddo gael ei basio hefyd gan Dŷ’r Cynrychiolwyr.

Pe bai hynny’n digwydd, dyma fyddai’r tro cyntaf erioed i wleidyddion y wlad weithredu’r ‘Cynnig Pwerau Rhyfel’ – deddfwriaeth sy’n gofyn am roi ddiwedd ar ryfel.

Mae’r Tŷ Gwyn wedi ymateb trwy ddweud bod y cam yn codi “pryderon cyfansoddiadol difrifol”, ac y gallai “danseilio” rôl yr arlywydd.

Dyw’r Unol Daleithiau ddim yn uniongyrchol yn rhan o’r rhyfel, ond mae’r wlad yn darparu cymorth i’r gynghrair – dan arweiniad Saudi Arabia – sy’n brwydro yno.

Bellach mae’r rhyfel yn bum mlwydd oed ac wedi lladd miloedd. Hefyd mae miliynau yn newynu, ac mae’r Cenhedloedd Unedig wedi galw’r sefyllfa yn argyfwng dyngarol gwaethaf yn y byd.