MAe dau ddyn ifanc, yn gwisgo hwdis ac yn cario nifer o arfau, wedi tanio at ysgol yn Brasil, gan ladd wyth o bobol ac yna eu lladd eu hunain.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ardal Suzano yn Sao Paulo – dinas fwya’ Brasil.

Mae swyddfa’r llywodraethwr yn dweud mai’r gred ydi fod y saethwyr rhwng 20 a 25 oed. Doedden nhw ddim yn gyn-ddisgyblion yn yr ysgol.

Ymhlith y meirwon y mae dau athro a chwech o ddisgyblion, ac mae nifer o bobol eraill wedi cael eu cludo i’r ysbyty i gael triniaeth am anafiadau.

Mae achosion o saethu mewn ysgolion yn bethau prin iawn yn y wlad.