Mae ymgyrchydd ifanc o Sweden, sydd wedi dod yn llais amlwg mewn ymgyrchoedd yn erbyn newid yn yr hinsawdd, wedi cael ei henwebu am Wobr Heddwch Nobel.

Mae Greta Thunberg yn cael y clod am greu mudiad sy’n “gwneud cyfraniad mawr i heddwch byd” yn ôl gwleidyddion.

Mae’r ferch 16 oed wedi annog myfyrwyr ledled y byd i beidio mynd i’r ysgol ac i ymuno, yn hytrach, gyda phrotestiadau sy’n mynnu mwy o weithredu ar faterion sy’n niweidiol i’r amgylchedd.

Chwefror 1 oedd dyddiad cau derbyn enwebiadau ar gyfer Gwobr Heddwch 2019.