Mae blwch du yr awyren Boeing a gwympodd i’r ddaear yn Ethiopia yr wythnos ddiwetha, gan ladd y 157 o bobol ar ei bwrdd, yn cael ei anfon dramor er mwyn cael ei ymchwilio.

Fe ddaeth y cyhoeddiad gan Ethiopian Airlines heddidw, wrth i deuluoedd y bobol gafodd eu lladd gyrraedd safle’r ddamwain i alaru.

Fe fydd y data a’r cofnodion sy’n adrodd munudau olaf y daith yn cael ei hanfon at arbenigwyr yn Ewrop, gan nad oes gan y cwmni y gallu na’r offer i wneud y profion iawn, meddai Ethiopian Airlines wedyn.

Mae’r llefarydd hefyd yn dweud fod un blwch du wedi’i ddifrodi yn y digwyddiad.

Fe ddaeth y Boeing 737 Max 8 i’r ddaear chwe munud wedi iddi godi i’r awyr ddydd Sul (Mawrth 10). Dyma’r ail waith i awyr Max 8 syrthio o’r awyr o fewn pum mis.