Mae plismyn yn rhwystro pobol rhag mynd a dod i un o safleoedd mwya’ cysegredig Jerwsalem, wedi i Balesteiniaid, yn honedig, daflu bom at orsaf heddlu gerllaw.

Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad, ond fe symudodd swyddogion yn sydyn i gau pob mynediad i’r Deml ar y Bryn – safle sy’n cael ei ystyried yn un sanctaidd a phwysig gan Iddewon a Mwslimiaid.

Mae tri o bobol wedi cael eu harestio, ac fe welwyd heddweision yn ymaflyd â dynes arall hefyd.

Mae’r safle yn gartref i Fosg Al-Aqsa Mosque ac i’r Deml To-Aur.

Mae ambell lwybr i mewn i Hen Ddinas Jerwsalem wedi eu cau hefyd, lle mae rhagor o safleoedd cysegredig i Iddewon. Dim ond trigolion sy’n cael mynd a dod i mewn i ardaloedd Mwslimaiss a Christnogol, tra bod mynedfeydd eraill yn dal i fod ar agor.

Mae arlywydd y Palesteiniaid, Mahmoud Abbas, wedi beirniadu’r trais, gan ddweud y gallai arwain at “wrthymateb peryglus”. Mewn datganiad, mae wedi galw ar y gymuned ryngwladol i ymyrryd.