Mae llygredd aer yn lladd mwy o bobol nag y mae ysmygu, yn ôl canlyniadau ymchwil newydd.

Mae’r ystadegau yn awgrymu fod 8.8 miliwrn o farwolaethau y flwyddyn ledled y byd o ganlyniad i fudreddi’r aer y mae pobol yn ei anaflu. Gronynnau o huddug yn cael eu hallyrru gan geir, gan ffatrïoedd a pwerdai, sy’n gyfrifol am y llygredd.

Mae’r ymchwil wedi’i gynnal gan Brifysgol Mainz yn yr Almaen.

Y gred ydi fod llygredd awyr yn lladd 64,000 o bobol yn ngwledydd Prydain bob blwyddyn, ac yn achosi 17,000 o achosion o glefyd y galon.

Roedd mwy na 29,000 o farwolaethau gwleydd Prydain yn cael eu cysylltu ag amrediad o gyflyrau eraill fel canser, clefyd y siwgwr a chlefyd yr ysgyfaint.

Er hynny, mae pobol gwledydd eraill yn Ewrop yn cael eu heffeithio’n waeth, Yn yr Almaen, mae llygredd aer yn gyfrifol am 124,000 o farwolaethau ychwanegol yn 2015, ac am fyrhau oes o 2.4 flynedd.

Yn ystod yr un flwyddyn, fe gafodd 81,000 o farwoalethau yr Eidal eu hachosi gan lygredd; 67,000 yn Ffrainc; a 58,000 yng ngwlad Pwyl.