Mae ymdrechion i ddelio ag Ebola yn y Congo yn cael eu rhwystro gan gyfres o ymosodiadau.

Mae Medecines Sans Frontieres wedi rhoi’r gorau i’w hymdrechion mewn dwy ganolfan feddygol oherwydd bod pobol wedi bod yn trio llosgi’r adeiladau.

Ac yn ôl llywydd yr elusen feddygol, Joanne Liu, mae cyrff sy’n ceisio delio â’r afiechyd heintus wedi profi “30 digwyddiad ac ymosodiad” gwahanol.

Yn sgil yr achosion yma, mae’n debyg bod pobol yn ofni cludo cleifion i ganolfannau.

Dros y degawdau diwethaf mae degau o filoedd o bobol wedi marw o Ebola yn y wlad Affricanaidd, a rhwng 2014 2016 bu farw dros 11,000.

Mae llu o grwpiau milwrol yn gweithredu yn nwyrain y Congo, ac mae hynny wedi cymhlethu’r ymdrech i fynd i’r afael ag achosion.