Mae ffermwyr Sbaen yn pryderu am ymadawiad gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd ac effaith hynny ar eu busnesau.

Mae tywydd poeth Sbaen yn golygu y gall ffrwythau a llysiau dyfu trwy’r flwyddyn, ac mae’r mwyafrif yn mynd i wledydd gogledd Ewrop, gan gynnwys gwledydd Prydain.

Ond fe all Brexit achosi colledion o filiynau o bunnoedd yn y busnes hwnnw. 

Mae masnach cynnyrch ffres yn dibynnu ar gael newyddau i’r farchnad yn brydlon, ond byddai Brexit yn gallu arwain at oedi hir a chostau mawr i lorïau.

Ar ben hynny, mae’r posibilrwydd o dariffiau mewnforio yng ngwledydd Prydain yn creu pryder ymysg ffermwyr Sbaen.

Daeth bron i 285,000 tunnell fetrig o gynnych fferm i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon o Almeria, Sbaen, y llynedd.

Mae’n golygu mai gwledydd Prydain yw’r drydedd farchnad fwyaf yn Ewrop tu ôl i’r Almaen a Ffrainc.

Daeth y gwerthiant hwnnw ychydig dros €274m mewn refeniw.