Bu farw Jerry Merryman, un o ddyfeiswyr y gyfrifiannell electronig.

Roedd yn 86 oed ac wedi treulio cyfnod mewn ysbyty yn Dallas, yr Unol Daleithiau, yn diodde’ o gymhlethdodau o ganlyniad i glefyd ar ei galon a’i arennau.

Roedd yn un o’r tri dyn a ddyfeisiodd y gyfriannell boblogaidd, tra’r oedden nhw’n gweithio i gwmni rhyngwladol Texas Instruments (TI).

Arweinydd y tim oedd Jack Kilby, ac maen nhw’n cael y clod am greu y dechnoleg a’i gwnaeth hi’n bosib wedyn i greu cyfrifiaduron fel y gwyddon ni amdanyn nhw heddiw. Fe enillodd y rhwydweithiau hynny Wobr Nobel.

Mae’r prototeip bellach i’w weld yn Sefydliad y Smithsonian yn Washington DC.